© 2011 Radio Cardiff 98.7FM. All Rights Reserved.
Radio Cardiff is not responsible for the content of any external sites.
Schedule
Features
RADIO CAERDYDD
Ychydig Mwy amdanom Ni
Sain y Brifddinas
Radio Caerdydd (98.7FM) yw gorsaf radio Caerdydd sy’n gwasanaethu prifddinas Cymru. Rydyn ni’n darlledu’n lleol ar 98.7FM ac wrth lifo’n fyw ar wefan Radio Caerdydd. Dechreuodd Radio Caerdydd (98.7FM) ddarlledu’n fyw ar ddydd Llun 8 Hydref 2007. Cynhaliwyd agoriad ffurfiol y stiwdio yn Nhrebiwt, Caerdydd, ar 25 Hydref 2007 mewn achlysur lle’r oedd y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC (y Prif Weinidog) yn bresennol. Ystyrir Radio Caerdydd fel gorsaf radio gymunedol, sy’n math o wasanaeth radio sy’n cynnig darpariaeth y tu hwnt i’r gwasanaeth masnachol a chyhoeddus. Mae’n darlledu cynnwys sy’n boblogaidd ac yn berthnasol. Mae Radio Caerdydd yn caniatáu i unigolion, grwpiau a chymunedau ddweud eu storïau amrywiol eu hunain, rhannu profiadau ac i fod yn weithredol ac yn gyfranwyr y cyfryngau. Fel gyda nifer o orsafoedd radio cymunedol gwirfoddolwyr yw’r gweithlu. O fewn hyn, mae gan yr Orsaf gymysgedd amrywiol o dros 50 o gyflwynwyr, darllenwyr newyddion talentog, newyddiadurwyr, ymchwilwyr a darpar beirianwyr sain o bob oed a diwylliant sy’n helpu i sicrhau bod Caerdydd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, yn cael ei diddanu a’i bod yn rhan o’r orsaf radio gymuned leol.
Mae’n arbenigo mewn chwarae MOBO (Music Of Black Origin) reggae; soul; funk; jazz; soca; calypso; cerddoriaeth y byd; bhangra; hip-hop; R&B; cerddoriaeth tŷ a drwm a bas. Mae hefyd yn cynnwys caneuon o siartiau’r DU ac America.
Mae trefn reolaidd Radio Caerdydd yn llawn bwletinau newyddion lleol a rhaglen gylchgrawn ddyddiol sy’n cynnwys newyddion a gwybodaeth y gymuned; chwaraeon lleol; rhaglen a gynhyrchir ac a gyflwynir gan bobl ifanc 12 – 18 oed; rhaglen gan fyfyrwyr o Brifysgol Morgannwg ; a rhaglen wythnosol ar gyfer y gymuned Somali yng Nghaerdydd.
If you want to Advertise in the Welsh Capital with Radio Cardiff, whether it be on-air or on the web just contact us here or phone us on 02920 229672.
Click here for further information.
Title: A Love I Can Feel
Artist: John Holt